Croeso i Wefan Cyngor Cymuned Llandysul
Mae Cyngor Cymuned Llandysul, yn yr un modd â phob Cyngor Tref a Chymuned arall yng Nghymru, yn gwasanaethu'r gymuned leol ac yn gweithio i wella ansawdd bywyd yn ei ardal leol. Mae'n cynrychioli etholwyr fel eu haen lywodraeth ac atebolrwydd ddemocrataidd gyntaf, gan wneud hynny trwy arfer amrediad o ddyletswyddau a phwerau statudol.
Mae Cyngor Cymuned Llandysul yn cynnwys pedair ward etholiadol, sef Ward Capel Dewi, Ward Pont-siân, Ward Tre-groes a Ward Drefol Llandysul, ac mae'n cynnwys 12 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 2700 o breswylwyr (Cyfrifiad 2011). Bob blwyddyn, etholir pen y Cyngor, sef y Cadeirydd, o blith y Cynghorwyr sy'n gwasanaethu. Mae'r cyngor yn cyflogi Clerc rhan-amser.

Gwasanaethau'r Cyngor Cymuned
Mae Cyngor Cymuned Llandysul yn ymgynghorai ar gyfer ceisiadau cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr.
Bathodyn y Cyngor

Caiff y cefndir Glas Brenhinol ei gymryd o ganol cadwyn y Cadeirydd, ac mae'n debygol ei fod yn cynrychioli afon Teifi.
Mae'r symbolau ar y bathodyn fel a ganlyn:
Llinellau tonnog – Afon Teifi;
Pennau ŷd - ffermio ac amaethyddiaeth yn yr ardal;
Y pysgod - Pysgota, gan bod y Teifi yn enwog am eogiaid, sewiniaid a brithyllod;
Yr ysgol a'r llyfr (dysg) - maent yn cynrychioli Ysgol Dyffryn Teifi;
Y Ddraig Goch - Cymru
Newyddion
Cyhoeddiad
Diogelu Cymru
Dolenni Defnyddiol
GIG 111 Gwirwyr SymptomauEwch i http://111.gig.cymru os ydych chi am wirio’ch symptomau am bob math o gyflyrau yn gyflym a dod o hyd i’r ffordd orau o’u trin nhw...
GWOBR Y GYMUNED 2020
Ydych chi'n adnabod unigolyn neu grwp ym Mhlwyf Llandysul sydd wedi rhoi gwasanaeth da i'r gymuned neu wedi rhagori mewn maes arbennig? Ydych chi'n adnabod unigolyn neu grwp sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel Sirol neu Genedlaethol, neu wedi rhoi gwasanaeth hir yn y maes gwirfoddol? Beth am enwebu'r unigolyn neu'r grwp ar gyfer Gwobr y Gymuned 2020?
Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd...